Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Ionawr 2019
Amser:
10.32 -
12.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5175
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Mark Isherwood AC Carwyn Jones AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru Dr Greg Davies, Canolfan Llywodraethiant Cymru Mark Day, Prison Reform Trust |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Lisa Griffiths (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jenny Rathbone AC a Huw Irranca-Davies AC.
2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 7 y cyfarfod.
3.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymweliad anffurfiol.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Robert Jones, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru
· Dr Greg Davies, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Mark Day, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu, Yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai
6.1a Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.
6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5.